Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Medi 2015
Amser: 09.00 -
10.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3218
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Sandy Mewies AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru) Huw Vaughan Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Fay Buckle yn ôl fel Clerc a diolch i Michael Kay am glercio'r Pwyllgor yn ei habsenoldeb.
2.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd yr aelodau ar y canlynol:
· Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf - Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion.
· Gweithredu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG - Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion a godwyd gan Aelodau.
· Glastir - Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf, pan fydd ar gael, ynglŷn â'r cynlluniau rheoli basnau afonydd wedi'u diweddaru a hefyd i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag achosion y gellir eu holrhain i dir a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru lle y methwyd â chydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
· Gofal heb ei Drefnu - Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion a godwyd.
· Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gopi o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y Dr Chris Jones ar wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, pan fydd ar gael, a hefyd i ofyn am ddata yn ymwneud â nifer y gwasanaethau meddygon teulu penodol sydd wedi'u lleoli o fewn adrannau achosion brys mewn ysbytai.
3.1 Rhoddodd Mike Usher, Arweinydd Sector ar gyfer Iechyd a Llywodraeth Ganolog yn Swyddfa Archwilio Cymru, sesiwn friffio ar yr adroddiad, ac fe'i nodwyd gan yr Aelodau.
3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn am eglurhad ynglŷn ag amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r prosiect Symleiddio a Gwella Cyfrifon.
4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gylch.
4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i argymhellion yr Adroddiad ac esboniad o'u rhesymau dros newid eu polisi ar godi sgriniau o amgylch damweiniau, ar yr A55, i atal modurwyr rhag edrych ar ddamweiniau.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau'r sesiynau craffu sydd ar y gweill ar gyfrifon blynyddol 2014-15 gan awgrymu meysydd yr oeddent yn dymuno iddynt gael eu cynnwys yn y briffiau perthnasol.
6.2 Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y bydd yn ysgrifennu gyda dadansoddiad o sut y mae'r cyrff y rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth iddynt yn 2014 wedi bwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor, ar ôl archwilio'r holl adroddiadau blynyddol a chyfrifon ar eu cyfer.